Minutes / Cofnodion

Cross Party Autism Group / Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth

 Ionawr 14 January 2014

National Assembly for Wales / Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

1 WELCOME / CROESO

Croesawodd Mark Isherwood, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol Awtistiaeth, bawb i’r cyfarfod cyntaf yn 2015. Roedd yr Aelodau a ganlyn yn bresennol: Aled Roberts; Jeff Cuthbert; William Powell; Rhodri Glyn Thomas; Alun Ffred Jones; a Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd cynrychiolwyr o swyddfeydd Mike Hedges; Suzy Davies a Simon Thomas hefyd yn bresennol.

 

2 MINUTES OF THE LAST MEETING AND MATTERS ARISING/ COFNODION A MATERION YN CODI

2.1 Awgrymodd David Malins y dylid cofnodi cyfraniadau pawb er gwybodaeth i’r rhai nad oeddent yn gallu bod yn bresennol. Gofynnodd Mark Isherwood i dystiolaeth unigolion gael eu hanfon at yr ysgrifenyddiaeth i’w dosbarthu ar gais.

 

2.2 Rhoddodd Mark Isherwood y wybodaeth ddiweddaraf am ei ohebiaeth yn ymwneud â rhoi’r gorau i glustnodi arian ar gyfer awtistiaeth. Nododd fod awdurdodau lleol eraill wedi dilyn Powys wrth benderfynu cynnig clustnodi arian yn wirfoddol. Cadarnhaodd fod llythyr y Gweinidog i awdurdodau lleol ar gael i’w weld.

 

2.3 Hefyd, croesawodd Mark Jeff Cuthbert AC fel swyddog newydd y Grŵp a diolchodd yntau am y cynnig i fod yn rhan o’r Grŵp.

 

3 QUESTIONS TO THE MINISTER OF HEALTH AND SOCIAL SERVICES / CWESTIYNAU I’R GWEINIDOG IECHYD A GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

3.1 Cafodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei longyfarch gan Mark Lever, Prif Weithredwr NAS, ar ennill Achrediaeth Awtistiaeth, gan bwysleisio pa mor bwysig oedd sicrhau bod pobl ag awtistiaeth yn gallu defnyddio mannau cyhoeddus. Yna aeth rhagddo i sôn am y Cynllun Gweithredu Strategol ASD, y cyntaf o’i fath yn y byd, ond tanlinellodd fod bylchau a heriau o hyd o ran mynediad at wasanaethau. Dywedodd Mark Lever fod yr NAS yn hapus i gynorthwyo Llywodraeth Cymru pan fo hynny’n bosibl wrth iddo adnewyddu ei strategaeth awtistiaeth, ond mae’r penderfyniad i beidio â chlustnodi arian yn peri pryder mawr ac mae amheuaeth hefyd ynglŷn â gallu’r strategaeth newydd i sicrhau’r newidiadau rydym i gyd am eu gweld os na chânt eu hategu gan ddeddfwriaeth. Ychwanegodd Mark fod angen Deddf Awtistiaeth os yw Cymru am sicrhau ei bod yn parhau i fod o flaen y gad ym maes awtistiaeth, ac er mwyn rhoi hyder i bobl ag awtistiaeth y byddant yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Daeth Mark â’i sylwadau i ben drwy gynnig y syniad o gyflwyno Deddf Awtistiaeth i’r Gweinidog, gan ofyn a oedd hynny’n rhywbeth y gallem ddisgwyl ei weld ym maniffesto’r blaid Lafur yn y dyfodol.

 

Diolchodd Mark Drakeford i’r grŵp am y cyfle i ddod i’r cyfarfod a oedd, meddai, yn cael ei gynnal ar adeg amserol iawn, sef wythnos cyn i’r Cynulliad Cenedlaethol drafod Deddf Awtistiaeth. Ychwanegodd Mark y byddai ganddo ddiddordeb gweld sut y byddai Deddf yn helpu i gyflawni amcanion cyffredin y grŵp ac, yn sicr, meddai, ni fyddai’n diystyru’r posibilrwydd.

 

3.2 Darllenodd Mat Mathias gwestiwn ar ran Lisa Rapado am y diffyg cymorth a’r diffyg gwasanaethau a oedd ar gael i’r rhai sy’n trosglwyddo o ofal CAMHS i wasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion.

 

Cytunodd Mark Drakeford y gallai terfynau oedran greu anawsterau ond cafodd CAHMS ei ymestyn i  bobl ifanc 18 oed am y rheswm hwn. Dylai CAMHS barhau i gynnig cymorth i unrhyw un o dan 18 oed. Nododd hefyd fod mwy o bwyslais yn cael ei roi ar farn pobl ifanc eu hunain am natur y cymorth sydd ei angen arnynt ac mae angen gwella’r modd rydym yn datgysylltu eu barn nhw oddi wrth farn gweithwyr proffesiynol, rhieni neu ofalwyr.

 

3.3 Soniodd Jill Grange fod y strategaeth awtistiaeth wedi codi gobeithion ond nid oedd wedi cyflawni cymaint ag y gallasai. Dywedodd fod pryder ymhlith grwpiau o randdeiliaid lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ynglŷn â ble yn union roedd pobl ag awtistiaeth i fod i gael cymorth, yn enwedig o ystyried yr amheuaeth ynglŷn ag effaith unrhyw arian a wariwyd ar brosiectau. Ni fyddai Taliadau Uniongyrchol yn helpu ei phlentyn hi i gael rhywle i fyw, meddai Jill, a gorffennodd drwy ofyn i’r Gweinidog; ‘I ble’r af i mewn argyfwng?’

 

Ymrwymodd Mark Drakeford i sicrhau bod llais rhieni a defnyddwyr gwasanaethau’n ganolog i unrhyw benderfyniadau a wneir yn y dyfodol. Soniodd am y cynnydd yn y galw, a’r gostyngiad mewn cyllid, a bod angen ffordd newydd o feddwl am bethau, gan wella’r ffordd rydym yn integreiddio gwasanaethau a theuluoedd. Dywedodd y Gweinidog hefyd ei fod yn benderfynol o sicrhau cyllid lleol ar gyfer awtistiaeth a dywedodd y bydda’r newidiadau i Daliadau Uniongyrchol yn golygu y byddai’n haws eu cael ac y byddent yn fwy hyblyg.

 

3.4 Dywedodd Alwyn Rowlands, o Grŵp Cymorth Asperger Gwynedd a Môn fod diagnosis yn gwella yn ei ardal ef, ond nid oedd cymorth ar gael wedyn. Awgrymodd mai dim ond drwy ddeddfu y byddai modd sicrhau cysondeb yn y cymorth sydd ar gael o gofio bod cyllid yn cael ei haneru bron yn yr ardal.

 

Sicrhaodd Mark Drakeford y grŵp y byddai’n ystyried y posibilrwydd o gyflwyno Deddf ond roedd angen iddo weld y manylion y tu ôl i’r penawdau.

 

3.5 Dywedodd Karen Thompson fod gwerth unigolion ar y sbectrwm awtistiaeth yn gostwng ac y dylid rhoi mwy o flaenoriaeth iddynt wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

 

Cytunodd y Gweinidog y dylid rhoi llais i unigolion gan ddweud ei bod yn ymwybodol o’r pryderon ynglŷn â’r newidiadau i’r broses o gael diagnosis, ac roedd yn cael cyngor arbenigol ynglŷn â’r mater.  

 

3.6 Soniodd Wayne Putterill am y rhyddhad a deimlodd ar ôl cael diagnosis pan oedd yn 48 oed, ond bod hyn wedi pylu oherwydd y diffyg cymorth a oedd ar gael iddo wedyn. Ers ei ddiagnosis, teimlai ei fod yn cael ei drin yn nawddoglyd ac yn cael ei anwybyddu gan weithwyr proffesiynol nad oeddent wedi’u hyfforddi’n ddigonol. Mynnodd bod gan y gymuned ASD hawl i gael dweud eu dweud.

 

3.7 Awgrymodd Hilary Leadbitter y byddai Deddf yn cynnig rhwyd diogelwch cyfreithiol, o gofio bod llai o blant yn cael datganiad a bod y penderfyniad i roi Cynlluniau Datblygu Unigol ar waith yn nwylo’r Pennaeth. Dywedodd fod angen i blant ag awtistiaeth gael cymorth yn gynnar a chyfeiriodd at astudiaeth achos yn ymwneud â nyrs gymunedol heb unrhyw ymwybyddiaeth o awtistiaeth. (Eglurodd Mark Isherwood fod newidiadau i Anghenion Dysgu Ychwanegol y tu allan i gyfrifoldeb y Gweinidog, o bosibl, a thanlinellodd fod angen cydweithrediad rhwng adrannau gwahanol).

 

Dywedodd Mark Drakeford y byddai angen iddo weld sut y gallai Deddf ymwneud ag adrannau gwahanol yn y Llywodraeth a dywedodd ei bod yn annerbyniol anwybyddu pobl ag awtistiaeth. Mae’n fantais clywed llais y rhai sy’n defnyddio’r gwasanaethau a dylid rhoi’r sylw dyledus iddynt. Cytunodd David Malins gan ddweud bod angen newid agweddau.

 

3.8 Nododd Miriam Wood fod y systemau ar gyfer cyfeirio’r rhai ag awtistiaeth at y gwasanaethau priodol yn gymhleth iawn ac er bod gofalwyr a darpar ddefnyddwyr gwasanaetha’n gwybod sut fath o gymorth sydd ei angen arnynt, mae’n rhy anodd cael eich cyfeirio at y cymorth priodol. Ychwanegodd Miriam y gallai bod o gymorth pe bai Taliadau Uniongyrchol yn fwy hyblyg.

 

Cytunodd y Gweinidog y gallai Taliadau Uniongyrchol fod yn rhy gaeth ac y byddai newidiadau’n dod i rym y flwyddyn nesaf.

 

3.8 Gofynnodd Lesley Wood i Mark Lever a allai’r NAS wneud rhagor i roi hyfforddiant ar awtistiaeth i weithwyr proffesiynol fel Meddygon Teulu.

 

Awgrymodd Mark Lever fod hyfforddiant ar gael yn barod a bod hynny’n tanlinellu pwysigrwydd deddfwriaeth. Gellid gorfodi gweithwyr proffesiynol i gael hyfforddiant, gan arwain at well ymwybyddiaeth ym maes iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg yn benodol. Ychwanegodd fod codi ymwybyddiaeth yn gwbl sylfaenol i unrhyw gynnydd.

 

3.9 Cafwyd sylwadau gan Denise ar bwysigrwydd hyfforddiant a sut y mae llawer o weithwyr proffesiynol yn gwrthod cwblhau’r broses gyfeirio’n briodol, sy’n golygu bod pobl yn cael eu hanfon o’r naill weithiwr proffesiynol i’r llall wrth chwilio am gymorth priodol.

 

Cytunodd Mark Lever nad oedd awtistiaeth yn cael ei gydnabod yn statudol a bod hynny’n ei gwneud yn anodd i bobl gael cymorth effeithiol oni bai bod ganddynt broblemau iechyd meddwl neu anableddau dysgu cysylltiedig. Byddai deddfwriaeth yn helpu i fynd i’r afael â hyn. 

 

3 ISSUES RAISED / MATERION A GODWYD

Bydd dadl yn y Senedd ar 21/01/15 i drafod Deddf Awtistiaeth

 

4. ACTIONS / PWYNTIAU GWEITHREDU

Dim camau i‘w cymryd

 

 

5. ANY OTHER BUSINESS / UNRHYW FATER ARALL

Dyddiad a lleoliad nesaf y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 10 Mehefin 2015.